Gweithdai Canllawiau Digido Culturenet Cymru

26 Ionawr, 2010

hyfforddi
Mae Culturenet Cymru yn cynnal cyfres o weithdai gyda’r bwriad o annog digido o fewn y sector dreftadaeth yng Nghymru.  Mae creu cynnwys digidol yn ganolog i strategaeth nifer o sefydliadau ac i hwyluso’r gwaith, mae Culturenet Cymru wedi datblygu set o ganllawiau ar y gwahanol agweddau i ddigido. Mwy »

Digido hanes Cwm Gwendraeth

2 Tachwedd, 2009

Rhannu Hanesion

Ar ddydd Sadwrn, 31 Hydref, gosododd Culturenet Cymru ei offer yn Neuadd Goffa Pontyberem ar gyfer diwrnod o ddigido gyda phobl Cwm Gwendraeth. Mwy »

Rymbl yn y Tymbl!

30 Hydref, 2009

Emyr Wyn
Teithiodd Sioned Rees-Jones a Dafydd Tudur o Culturenet Cymru i’r Tymbl yng Nghwm Gwendraeth yn ddiweddar er mwyn cymryd rhan mewn Noson Hanes Teulu yng nghwmni Emyr Wyn Evans, actor yn yr opera sebon Gymraeg Pobl Y Cwm.

Mwy »

Culturenet yn dechrau hyfforddiant digido

30 Hydref, 2009

hyfforddiant

Mae Culturenet Cymru wedi cynnal y cyntaf o bedwar peilot hyfforddiant digido sydd i’w cynnal rhwng nawr a diwedd mis Mawrth. Daeth staff amgueddfa, archifdy a llyfrgell Ynys Mon ynghyd i Langefni ar gyfer y diwrnod hyfforddiant ar 20 Hydref.

Mwy »

Maes y Gad i Les y Wlad

8 Medi, 2009

MYGLYW"/Mae gwefan newydd Maes y Gad i Les y Wlad nawr yn fyw. Daeth Maes y Gad i Les y Wlad  â disgyblion ysgol a phobl hyn at ei gilydd i greu straeon digidol yn seiliedig ar atgofion o’r cyfnod rhwng 1939 a 1959.  Ewch i  www.myglyw.org.uk i weld casgliad o straeon digidol, delweddau ac adnoddau addysgol.

Cyflenwad Newyddion Casglu’r Tlysau

19 Chwefror, 2009

RSS Icon

I gael y newyddion diweddaraf am Gasglu’r Tlysau tanysgrifiwch i gyflenwad newyddion RSS newydd y wefan.

Mwy »

Atgofion Machen

19 Chwefror, 2009

Machen Remembered

Helpodd grwp Archifau Cymunedol Cymru, Atgofion Machen, ei ysgol gynradd leol i ddathlu ei chanmlwyddiant yn ddiweddar.

Mwy »

Culturenet Cymru ac Ohio

19 Chwefror, 2009

Aneurin Bevan
Mae presenoldeb Culturenet Cymru ar y we wedi ysbrydoli arddangosfa o Gymry enwog yn Ohio, UDA.


Mwy »

Casglu’r Tlysau yn ennill gwobr ryngwladol

16 Ionawr, 2009

Gwobr flynyddol 2008
Mae prif brosiect Culturenet Cymru, Casglu’r Tlysau, wedi derbyn cymeradwyaeth ryngwladol, a’i enwi’n Anrhydedd Blynyddol 2008 yng Ngwobr ‘Talking Hands’. Mwy »

‘Nôl i’ch plentyndod!

12 Tachwedd, 2008

chitty chitty bang bang

Rhyfedd, efallai, yw meddwl y gallai teganau o’ch plentyndod chi fod mewn amgueddfa ond mae gan Amgueddfa Plentyndod Gorllewin Cymru gasgliad hyfryd o dedis, doliau, ceir, a theganau amrywiol a fydd yn sicr o ddeffro atgofion. Mwy »

Adroddiad Blynyddol Culturenet Cymru 2007-2008

12 Tachwedd, 2008

CNC
Mae Adroddiad Blynyddol Culturenet Cymru wedi ei gyhoeddi a bellach ar gael i’w ddarllen neu lawrlwytho.

Mae’r adroddiad yn cynnig arolwg o sut y mae Culturenet wedi bod yn gweithio i hybu a dathlu hanes a threftadaeth Cymru ar y we dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys datblygiad prosiect newydd, cyffrous. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma Mwy »

Priodasau ym Mrynaman

12 Tachwedd, 2008

CAW

Cafwyd arddangosfa ysblennydd o ffrogiau priodasol yng Nghanolfan Cymunedol Brynaman yn ddiweddar. Roedd yr arddangosfa, a drefnwyd gan grwp Archifau Cymunedol Cymru Brynaman yn ddathliad o bob dim yn ymwneud â phriodas: ffrogiau, hetiau, esgidiau, lluniau, gwahoddiadau, bwydlenni, hyd yn oed biliau ac anfonebau! Ymhlith y pigion oedd ffrog wedi ei wneud o sidan parasiwt o gyfnod yr Ail Rhyfel Byd a gwisg yn dyddio o’r 1870au. Mwy »

Maes y Gad i Les y Wlad: atgofion byw o’r ‘Coalhouse’

12 Tachwedd, 2008

dogni

Yn dilyn llwyddiant cyfres deledu’r ‘Coalhouse’ gan BBC Cymru, a welodd tri theulu, pedwar o Fois Bevin, a faciwîs, yn dysgu i ymdopi â bywyd ym Mlaenafon yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, beth am ddarganfod atgofion y bobl sy’n wir yn cofio sut oedd bywyd yn y cyfnod hwnnw? Mwy »

Byddwch yn rhan o ddyfodol hanes yng Nghymru

11 Gorffennaf, 2008

Byddwch yn rhan o ddyfodol hanes yng Nghymru

gtj
Bydd Culturenet Cymru yn bresennol ar faes yr Eisteddfod eleni ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn rhoi cyfle arbennig i ymwelwyr fod yn rhan o’n prosiectau ni. Mwy »

Diogelu Hanes y Tabernacl

11 Gorffennaf, 2008

A oes gennych ddelweddau o Gapel y Tabernacl, Aberystwyth cyn iddo gael ei ddinistrio gan dân? Mwy »