Casglu’r Tlysau’n cyrraedd uchelfannau newydd
Dydd Gwener, Awst 13th, 2004
Mae ystadegau’r wefan ar gyfer mis Mai 2004 yn dangos bod safle Casglu’r Tlysau wedi llwyddo i gyrraedd ei nifer uchaf o argraffiadau tudalen, yn anhygoel 460,000. Golyga hyn bod ein hymwelwyr wedi gweld ymron i hanner miliwn o dudalennau o safle Casglu’r Tlysau mewn mis. Rydym wrth ein bodd ar sut mae niferoedd cynyddol o bobl yn defnyddio ac yn mwynhau’r safle, sydd wedi profi newidiadau mawr yn ddiweddar.
(more…)

Ble fedrwh chi ddod o hyd i ffotograffau o Abertawe yn ystod y Tair Noson o Fomio neu ddyddiaduron milwyr o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf? Ble fedrwch chi ddarllen llythyrau merch naw mlwydd oed a oedd yn byw yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod Oes Victoria neu dudalennau o Flwyddlyfr Pêl-droed Cymru, 1891? Ble fedrwch chi archwilio gwaith tapestri o Sir Frycheiniog sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg neu lamp glöwr o Aberdár sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg?







Culturenet Cymru