Pwy oedd pwy ym Mywyd Cymru?
Dydd Sadwrn, Hydref 30th, 2004
I ddarganfod pwy yw pwy, neu’n hytrach pwy oedd pwy yng Nghymru, does bellach ond raid i chi fynd i Wefan newydd Y Bywgraffiadur Arlein, prosiect We dwyieithog diweddaraf Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
(more…)

Mae ystadegau’r wefan ar gyfer mis Mai 2004 yn dangos bod safle Casglu’r Tlysau wedi llwyddo i gyrraedd ei nifer uchaf o argraffiadau tudalen, yn anhygoel 460,000. Golyga hyn bod ein hymwelwyr wedi gweld ymron i hanner miliwn o dudalennau o safle Casglu’r Tlysau mewn mis. Rydym wrth ein bodd ar sut mae niferoedd cynyddol o bobl yn defnyddio ac yn mwynhau’r safle, sydd wedi profi newidiadau mawr yn ddiweddar.
Mae’r datblygiadau diweddaraf ar wefan y Cyngor Llyfrau –
Ble fedrwh chi ddod o hyd i ffotograffau o Abertawe yn ystod y Tair Noson o Fomio neu ddyddiaduron milwyr o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf? Ble fedrwch chi ddarllen llythyrau merch naw mlwydd oed a oedd yn byw yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod Oes Victoria neu dudalennau o Flwyddlyfr Pêl-droed Cymru, 1891? Ble fedrwch chi archwilio gwaith tapestri o Sir Frycheiniog sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg neu lamp glöwr o Aberdár sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg?
Edrychwch ar waith Thomas Jones, Pencerrig yn arddangosfa rithwir Llyfrgell Genedlaethol Cymru.







Culturenet Cymru