Byddwch yn rhan o ddyfodol hanes yng Nghymru
Dydd Gwener, Gorffennaf 11th, 2008Byddwch yn rhan o ddyfodol hanes yng Nghymru

Bydd Culturenet Cymru yn bresennol ar faes yr Eisteddfod eleni ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn rhoi cyfle arbennig i ymwelwyr fod yn rhan o’n prosiectau ni. (more…)

Lansiwyd
Dechreuwyd ar waith cloddio pwysig yng Nghôr y Cewri, gorllewin Lloegr am y tro cyntaf ers 1964 ar ddydd Llun, 31 Mawrth 2008.
Cododd cymdeithas o bobl leol a sefydlwyd i dalu teyrnged i Tommy Cooper, a gafodd ei eni yng Nghaerffili ym 1921, £45,000 i gomisiynu cerflun o’r digrifwr.
Newidiodd system arian Prydain ar 15 Chwefror 1971. Rydym wedi defnyddio system arian degol ers hynny, gyda chant o geiniogau i’r bunt.
Mae aelodau Byddin Dir y Merched (WLA) a Chorfflu Coed y Merched (WTC) wedi ymgyrchu ers degawdau i wobrwyo’r merched a fu’n gweithio ar y tir yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae arddangosfa o waith ‘Arlunydd Cyntefig Cymreig’ ar hyn o bryd yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili, ger Caerfyrddin. Roedd yr arlunydd yn gweithio’n lleol yn ystod y 19eg ganrif, ond nid ydym yn gwybod ei hanes. Nid ydym hyd yn oed yn gwybod ai dyn ai merch ydoedd.
Mae Glofa’r Twr yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, yn cau’n swyddogol ar 25 Ionawr 2008. Prynodd 239 o lowyr Lofa’r Twr gyda’u tâl colli gwaith ym 1995, blwyddyn wedi iddi gael ei chau.
Mae’r Bont Gludo’n symbol o ddatblygiad diwydiannol yng Nghasnewydd. Ym 1896 cyhoeddodd John Lysaght, o Wolverhampton, ei fod yn bwriadu codi gwaith dur yn y de-orllewin.
Mae arddangosfa yn Amgueddfa Ceredigion ar hyn o bryd yn olrhain hanes ac yn dangos enghreifftiau o waith y teulu Hutchings.
Ar 12 Tachwedd 1984 cafodd y papur punt ei ddisodli gan ddarn arian punt. 
Cyhoeddwyd bod Culturenet Cymru yn ail orau yn nosbarth Amrywioldeb Her Arfer Orau Nominet yn Fforwm Llywodraethol Rhyngrwyd y DU yn San Steffan.
Mae prosiect Archifau Cymunedol Cymru (ACC) wedi cychwyn. Dros y flwyddyn nesaf bydd chwe grwp cymunedol yn datblygu archifau digidol cymunedol eu hunain, gyda chymorth ein tîm ymroddedig, sef Richard, Hannah, Sian a Paul. 







Culturenet Cymru