Archive for the ‘Digido’ Category

Dogfen Ganllawiau ar gyfer Metadata a Delweddu 3) Digido

Dydd Iau, Tachwedd 11th, 2004

Delweddu digidol a chanllaw gwirio ansawdd (more…)

Dogfen Ganllawiau ar gyfer Metadata a Delweddu 1) Yr ymdriniaeth cylch bywyd

Dydd Iau, Tachwedd 11th, 2004

Digido – Yr ymdriniaeth cylch bywyd
Yn dilyn arweiniad safonau a chanllawiau technegol digido NOF, mae Casglu’r Tlysau yn hyrwyddo ymdriniaeth cylch bywyd i ddigido. Ymhlith cyfnodau’r cylch bywyd mae Creu – Datblygu – Rheoli – Mynediad – Defnyddio/Ail-ddefnyddio – Cadwraeth. Mae hyn yn pwysleisio’r pwysigrwydd o weld y prosiect yn gyfan, a sut mae penderfyniadau a wneir yn ystod unrhyw gyfnod yn dylanwadu ar weddill y broses. Mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar y cyfnodau creu a rheoli ond rhoddir ystyriaeth i’r cylch bywyd cyfan mewn penderfyniadau yn ymwneud â ddau gyfnod hwn.
(more…)

Casglu’r Tlysau’n cyrraedd uchelfannau newydd

Dydd Gwener, Awst 13th, 2004

logo tlysauMae ystadegau’r wefan ar gyfer mis Mai 2004 yn dangos bod safle Casglu’r Tlysau wedi llwyddo i gyrraedd ei nifer uchaf o argraffiadau tudalen, yn anhygoel 460,000. Golyga hyn bod ein hymwelwyr wedi gweld ymron i hanner miliwn o dudalennau o safle Casglu’r Tlysau mewn mis. Rydym wrth ein bodd ar sut mae niferoedd cynyddol o bobl yn defnyddio ac yn mwynhau’r safle, sydd wedi profi newidiadau mawr yn ddiweddar.
(more…)

Rhoi enwau i wynebau yn Llandrindod

Dydd Llun, Mehefin 28th, 2004

llandrindodAr 25 Mehefin 2004 gofynnodd Culturenet Cymru am gymorth cynulleidfa lawn yn Llandrindod i adnabod yr eisteddwyr mewn cyfres o ffotograffau portread. Darllenwch ynglÅ·n â’r noson a’r cymorth y derbyniasom.
(more…)

Cymunedau Cymru

Dydd Sul, Mehefin 13th, 2004

logo cymunedau cymruMae Cymunedau Cymru yn brosiect peilot gan Culturenet Cymru. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol lleol i’w galluogi i greu cynnwys digidol cyffrous o brosiectau lleol. Bydd y cynnwys a grëir yn arddangos ar ein gwefan i bawb ei fwynhau. Bydd y cyntaf o’r prosiectau hyn – Portreadau Llandrindod – i’w weld o 24 Mehefin 2004 ymlaen ar www.cymunedaucymru.com
(more…)