Archive for the ‘Amgueddfeydd’ Category

Casglu’r Tlysau’n cyrraedd uchelfannau newydd

Dydd Gwener, Awst 13th, 2004

logo tlysauMae ystadegau’r wefan ar gyfer mis Mai 2004 yn dangos bod safle Casglu’r Tlysau wedi llwyddo i gyrraedd ei nifer uchaf o argraffiadau tudalen, yn anhygoel 460,000. Golyga hyn bod ein hymwelwyr wedi gweld ymron i hanner miliwn o dudalennau o safle Casglu’r Tlysau mewn mis. Rydym wrth ein bodd ar sut mae niferoedd cynyddol o bobl yn defnyddio ac yn mwynhau’r safle, sydd wedi profi newidiadau mawr yn ddiweddar.
(more…)

Dadorchuddio Tlysau Cymru

Dydd Llun, Medi 22nd, 2003

copper ladyBle fedrwh chi ddod o hyd i ffotograffau o Abertawe yn ystod y Tair Noson o Fomio neu ddyddiaduron milwyr o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf? Ble fedrwch chi ddarllen llythyrau merch naw mlwydd oed a oedd yn byw yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod Oes Victoria neu dudalennau o Flwyddlyfr Pêl-droed Cymru, 1891? Ble fedrwch chi archwilio gwaith tapestri o Sir Frycheiniog sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg neu lamp glöwr o Aberdár sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg?
Mae’r ateb i’r cwestiynau hyn a mwy ar wefan Casglu’r Tlysau ar www.tlysau.org.uk
(more…)