Dadorchuddio Tlysau Cymru
Ble fedrwh chi ddod o hyd i ffotograffau o Abertawe yn ystod y Tair Noson o Fomio neu ddyddiaduron milwyr o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf? Ble fedrwch chi ddarllen llythyrau merch naw mlwydd oed a oedd yn byw yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod Oes Victoria neu dudalennau o Flwyddlyfr Pêl-droed Cymru, 1891? Ble fedrwch chi archwilio gwaith tapestri o Sir Frycheiniog sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg neu lamp glöwr o Aberdár sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg?
Mae’r ateb i’r cwestiynau hyn a mwy ar wefan Casglu’r Tlysau ar www.tlysau.org.uk
Mae Casglu’r Tlysau yn brosiect unigryw a chyffrous a fydd yn gosod dros 20,000 o ddelweddau o ddiwylliant a hanes Cymru ar y Rhyngrwyd. Mae amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ledled Cymru yn cyfrannu deunydd i’r prosiect, a bydd y wefan yn cynnwys deunydd print, dogfennau gwreiddiol, mapiau, ffotograffau, peintiadau, arteffactau, clipiau sain a ffilm, a llawer mwy. Mae’r safle’n gwbl ddwyieithog a bydd yn adlewyrchu holl agweddau ar hunaniaeth ddiwylliannol Cymru.
Ynghyd â phrif ran y wefan, gyda’i chronfa ddata anferth o ddelweddau, mae nifer o ‘Helfeydd Hanes’ hefyd yn cael eu datblygu. Byddant yn arwain defnyddwyr mewn modd mwy trefnus drwy destunau arbennig, gan gynnig mwy o wybodaeth gefndir a dadansoddiad. Bydd yr Helfeydd sy’n ymwneud â ‘Glo’ a ‘Chymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’ yn arbennig o ddefnyddio ar gyfer athrawon a disgyblion ysgol uwchradd, tra bydd yr Helfa ar ‘Dai a Chartrefi’ yn cael ei datblygu ar gyfer plant ysgol gynradd.
Yn ogystal â hynny ceir adran gysylltiadau gynhwysfawr sy’n caniatáu defnyddwyr i ymweld â safleoedd yr holl sefydliadau sydd wedi cyfrannu at y prosiect. Gall ymwelwyr â’r safle gael egwyl o chwilio drwy’r delweddau drwy chwarae’r gêm dynwaredwr balŵn 3D ‘I Ffwrdd á Ni!’. Mae’r gêm yn eich caniatáu i lywio balwn aer dros dirlun Cymru, gan geisio ymweld â llefydd o ddiddordeb yn yr amser cyflymaf posibl.


Culturenet Cymru