Diogelu Hanes y Tabernacl

A oes gennych ddelweddau o Gapel y Tabernacl, Aberystwyth cyn iddo gael ei ddinistrio gan dân?

Mae Archifau Cymunedol Cymru (ACC) yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru i greu archifau digidol o’u hanes a’u treftadaeth. Yn ddiweddar mae ACC wedi creu grwp ar Flickr – y wefan rhannu delweddau – gyda’r bwriad o ehangu’r prosiect y tu allan i’r grwpiau presennol.
Mae ACC yn gweithio i ddweud stori eich Cymru Chi.

Hoffai ACC wybod os oes gan unrhyw un luniau o’r tu fewn i Gapel y Tabernacl cyn iddo gael ei ddinistrio, o unrhyw gyfnod yn ei hanes boed ddoe neu heddiw.

Hoffai ACC ddiogelu hanes yr adeilad arwyddocaol yma trwy ofyn i chi ymuno â’n grwp Flickr ar www.flickr.com/groups/cymru-wales.

Rydym yn gwahodd unrhyw un â lluniau o du mewn i’r adeilad i fod yn rhan o gofnodi hanes y capel trwy gyfrannu eu delweddau i’r grwp Flickr. Gall rhain wedyn ddod yn rhan o grwp cymunedol Cymru Ni.

Gallwch weld delweddau presennol grwpiau cymunedol ACC a’r gwaith mae’r prosiect yn ei wneud trwy ymweld â’r brif wefan: www.cymruni.org.uk

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Culturenet Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU
Ffôn: +44 (0)1970 632500
e-bost: newyddion@culturenetcymru.com

Noddir Culturenet Cymru, a leolir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Comments are closed.