Byddwch yn rhan o ddyfodol hanes yng Nghymru

Byddwch yn rhan o ddyfodol hanes yng Nghymru

gtj
Bydd Culturenet Cymru yn bresennol ar faes yr Eisteddfod eleni ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn rhoi cyfle arbennig i ymwelwyr fod yn rhan o’n prosiectau ni.

Eleni mae gan Culturenet arddangosfa rhyngweithiol a rydym yn annog ymwelwyr i gyfrannu eu meddyliau ar ystod o ddelweddau oddi ar wefan Casglu’r Tlysau. Mae hanes ein cenedl wedi’i wreiddio mewn atgofion a phrofiadau pobl fel chi a fi a rydym yn awyddus i ddarganfod pa deimladau mae’r delweddau yma’n ysgogi ynoch chi.

Cymerwch ran trwy ychwanegu eich sylwadau i’n arddangosfa rhyngweithiol neu rhannwch eich teimladau a’ch meddyliau am Gaerdydd a’u cael wedi recordio ar offer sain.
Cyfrannwch at gof cenedl trwy rannu eich atgofion gyda ni ar faes yr Eisteddfod

Bydd Culturenet Cymru hefyd yn lansio gwefan Casglu’r Tlysau newydd ar ddydd Iau’r ‘Steddfod ynghyd â chyfle i gael eitemau o’ch eiddo chi wedi’u digido gan ein tîm. Os oes gennych, lun, llythyr, tocyn, rhaglen neu gerdyn post yr hoffech gael wedi digido dewch i’n stondin a rhoddwch eich hanes chi ar gof a chadw.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Culturenet Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU
Ffôn: +44 (0)1970 632500
e-bost: newyddion@culturenetcymru.com

Noddir Culturenet Cymru, a leolir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Comments are closed.