Adroddiad Blynyddol Culturenet Cymru 2007-2008

Mae Adroddiad Blynyddol Culturenet Cymru wedi ei gyhoeddi a bellach ar gael i’w ddarllen neu lawrlwytho.
Mae’r adroddiad yn cynnig arolwg o sut y mae Culturenet wedi bod yn gweithio i hybu a dathlu hanes a threftadaeth Cymru ar y we dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys datblygiad prosiect newydd, cyffrous. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma
Yn ystod 2007-2008 gwelwyd barhad yng nghynnydd prosiectau Culturenet ac estyniad yn y rheiny sy’n elwa o’r prosiectau hynny. Yn ogystal, datblygwyd berthynas gwerthfawr gyda nifer o wahanol gyfranwyr a sicrhawyd lle Casglu’r Tlysau, fel y prif gasgliad o ddelweddau digidol yn ymwneud a hanes Cymru a’r Cymry.
Gyda datblygiad prosiect Archifau Cymunedol Cymru mae Culturenet yn gweithio gyda grwpiau gwahanol yng nghymdeithas i gynyddu’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth ac i hybu ymdeimlad o falchder ac o berthyn i gymuned trwy arddangos hanes eu cymuned ar y we.
Yn yr un modd, mae Maes y Gad i Les y Wlad (MYGLYW), prosiect sy’n creu straeon digidol o’r cyfnod rhwng 1939 a 1959, wedi dod â disgyblion ysgol ac aelodau o’r gymuned sy’n cofio’r cyfnod at ei gilydd i gyd-weithio mewn ffordd bositif a dyfeisgar.
I ddarllen yr adroddiad yn llawn dilynwch y linc isod:
Adroddiad Blynyddol


Culturenet Cymru