Priodasau ym Mrynaman

CAW

Cafwyd arddangosfa ysblennydd o ffrogiau priodasol yng Nghanolfan Cymunedol Brynaman yn ddiweddar. Roedd yr arddangosfa, a drefnwyd gan grwp Archifau Cymunedol Cymru Brynaman yn ddathliad o bob dim yn ymwneud â phriodas: ffrogiau, hetiau, esgidiau, lluniau, gwahoddiadau, bwydlenni, hyd yn oed biliau ac anfonebau! Ymhlith y pigion oedd ffrog wedi ei wneud o sidan parasiwt o gyfnod yr Ail Rhyfel Byd a gwisg yn dyddio o’r 1870au.

ffrog briodas
Trefnwyd yr arddangosfa fel rhan o waith grwp Treftadaeth Brynaman gydag Archifau Cymunedol Cymru i ddathlu a rhannu hanes eu pentref. Roedd yr eitemau yn yr arddangosfa yn dyddio o gyfnod o dros ganrif ac yn dangos yn glir sut mae ffasiynau wedi newid dros amser, yn ôl gofynion y cyfnod. Rhoddwyd yr eitemau yn garedig i’r arddangosfa gan drigolion lleol ac un peth sy’n amlwg yw fod gan briodferch y rhyddid i wneud yn union fel y myn hi ar ddiwrnod ei phriodas!

Roedd yr arddangosfa yn ffrwyth llafur wythnosau a misoedd o waith gan aelodau grwp Brynaman a mae’n adlewyrchu’r ymroddiad y mae pob un o’r 11 grwp cymunedol yn rhoi i’r prosiect. Mae’r arddangosfa wedi rhoi’r cyfle i’r grwp ddangos i’w teuluoedd, ffrindiau, cymdogion ac ymwelwyr y ffordd y maent yn rhannu hanes eu cymdeithas ar-lein.
Mae delweddau o eitemau’r arddangosfa bellach i’w gweld ar wefan Archifau Cymunedol Cymru

Comments are closed.