Maes y Gad i Les y Wlad: atgofion byw o’r ‘Coalhouse’

Yn dilyn llwyddiant cyfres deledu’r ‘Coalhouse’ gan BBC Cymru, a welodd tri theulu, pedwar o Fois Bevin, a faciwîs, yn dysgu i ymdopi â bywyd ym Mlaenafon yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, beth am ddarganfod atgofion y bobl sy’n wir yn cofio sut oedd bywyd yn y cyfnod hwnnw?
Yn ystod y gyfres bu’n rhaid iddynt ddysgu i ymdopi â dogni, y ‘blac-owt’ a’r ofn beunyddiol o gyrchoedd awyr, ond ar yr un pryd roeddent yn tynnu at ei gilydd fel cymuned. Diolch i ddau brosiect cyffrous gan Culturenet, gallwch gymharu’r profiadau hynny gydag atgofion byw o’r cyfnod.
Mae Eu Gorffennol Eich Dyfodol a Maes y Gad i Les y Wlad yn adrodd hanesion unigolion a fu’n byw trwy’r 1940au a’r 1950au.
Mae Maes y Gad i Les y Wlad yn dod â chyn-filwyr a thystion o’r cyfnod rhwng 1939 ac 1959 a disgyblion ysgol ynghyd i greu straeon digidol. Mae’r ffilmiau byr 2-3 munud hyn, a wnaed gan y disgyblion, yn cyfuno delweddau llonydd gydag atgofion y genhedlaeth h?n mewn ffordd arloesol sy’n helpu i wella’u dealltwriaeth o’r gorffennol.
Gellir defnyddio cynnwys y ddwy wefan hyn fel adnoddau diddorol ac addysgol cyffrous, i roi mewnwelediad i fywydau rhieni, teidiau a hendeidiau. Mae tîm addysg Culturenet hefyd yn gweithio ar adnoddau’n gysylltiedig â phump o themâu prosiect: Rhyfel a Gwrthdaro, Coffâd a Chymod, Gwaith a Chyflogaeth a Gwleidyddiaeth a Chymdeithas. Bydd yr holl adnoddau addysgol ar gael yn y misoedd i ddod a gellir eu llwytho i lawr.
Mae Eu Gorffennol Eich Dyfodol yn coffau’r Ail Ryfel Byd drwy atgofion y bobl a fu’n byw trwyddo. Nid yw’r wefan yn unig yn deyrnged barhaol i’r bobl a fu’n byw drwy’r cyfnod ond hefyd yn adnodd dysgu gwerthfawr i genedlaethau’r dyfodol.
Os hoffech wybod y gwirionedd am fywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymwelwch â gwefan Maes y Gad i Les y Wlad ac Eu Gorffennol Eich Dyfodol


Culturenet Cymru