‘Nôl i’ch plentyndod!

Rhyfedd, efallai, yw meddwl y gallai teganau o’ch plentyndod chi fod mewn amgueddfa ond mae gan Amgueddfa Plentyndod Gorllewin Cymru gasgliad hyfryd o dedis, doliau, ceir, a theganau amrywiol a fydd yn sicr o ddeffro atgofion.
Mae Amgueddfa Plentyndod Cymru wedi ei leoli mewn hen ffermdy yn Llangeler, y tu allan i Gaerfyrddin. Mae ymweld â’r amgueddfa fel camu ‘nôl i’ch plentyndod gyda thros ganrif o chwarae plant i’w weld yno.
Mae Casglu’r Tlysau yn falch o gael casgliad o eitemau o’r amgueddfa sy’n adlewyrchu sut mae teganau ac arferion chwarae plant wedi newid dros amser. O’r ddoli bren symlaf o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, i’r teganau a ysbrydolwyd gan gyfresi teledu a’r arferion hamdden diweddaraf, dangosa’r casgliad sut mae diwylliant poblogaidd wedi dylanwadu ar chwarae plant.
Mae yna sawl eitem yn y casgliad sydd yn amlwg yn dod o Gymru, fel y pyrsiau a rhubanau Eisteddfodol a fyddai wedi bod yn wobr i genedlaethau o blant mewn Eisteddfodau lleol. Ond roedd teganau yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru a oedd yn cael eu hallforio ledled y byd gan gwmn?au fel Mettoy a Louis Marx & Co. yn Abertawe. Roedd nifer ohonynt wedi eu hysbrydoli gan raglenni teledu a ffilmiau’r cyfnod, megis casgliad modelau deigastedig Corgi o geir Chitty Chitty Bang Bang, Batmobile, The Avengers ac Aston Martin DB5 James Bond a gynhyrchwyd gan Mettoy. Roedd y cwmni enfawr Americanaidd Louis Marx & Co. a oedd yn Abertawe yn cynhyrchu teganau poblogaidd fel y Daleks o’r gyfres deledu Dr Who yn ystod y 1960au a’r 1970au.


Culturenet Cymru