Culturenet Cymru ac Ohio

Aneurin Bevan
Mae presenoldeb Culturenet Cymru ar y we wedi ysbrydoli arddangosfa o Gymry enwog yn Ohio, UDA.


Cafodd arddangosfa ei chynnal yn ddiweddar ym Mhrifysgol Rio Grande, Ohio, yn dathlu arwyr mwyaf Cymru. Crëeodd y Cymrawd Ymchwil 2008 Benjy Davies 20 o ddarluniau digidol gwreiddiol yn seiliedig ar bleidlais 100 Arwyr Cymru Culturenet Cymru.

Mae’r gwaith celf yn dathlu arweinwyr hanesyddol a chyfoes ym meysydd barddoniaeth, celf, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth, yn cynnwys Owain Glyndwr, Richard Burton, Catherine Zeta Jones ac enillydd y bleidlais Aneurin Bevan. Mae’r delweddau digidol yn cyfuno portreadau, dyluniadau, patrymau a pheintio rhithwir a cawsant eu harddangos mewn dau safle yn ne-ddwyrain Ohio, ardal a ddenodd llawer o wladychwyr o Gymru yn ystod y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Prince MadogProsiect Ymchwil Madog 2008 yw’r arddangosfa. Mae Canolfan Madog, sydd wedi’i henwi ar ôl Tywysog Madog, a honnir iddo ddarganfod America cyn Christopher Columbus, yn gynnyrch Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudiaeth Diwylliant a Hanes Cymru, ac mae wedi’i lleoli yn un o aneddiadau mwyaf Cymry America yn yr UDA. Mae gan y Ganolfan gysylltiadau agos gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy’r Prosiect Cymru –
Ohio.

Mae’r arddangosfa’n dangos fod gwaith Culturenet yn ymestyn dros y byd, yn hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru. Yn ystod y mis diwethaf, mae gwefan Casglu’r Tlysau wedi derbyn dros 10,000 o ymweliadau oddi wrth yr Unol Daleithiau, gan gynnwys dros 200 o dalaith Ohio.

Mae’r adnoddau digidol ar-lein a ddarperir gan Culturenet Cymru yn caniatáu i dreftadaeth a diwylliant Cymru gael eu gweld a’u mwynhau’n rhyngwladol. Trwy ddigido a dehongli ar-lein, mae’n bosibl i Gymru i weld gweddill y byd a gweddill y byd i weld Cymru!

I weld yr arddangosfa ar-lein, cliciwch yma.

Comments are closed.