Casglu’r Tlysau yn ennill gwobr ryngwladol
Mae prif brosiect Culturenet Cymru, Casglu’r Tlysau, wedi derbyn cymeradwyaeth ryngwladol, a’i enwi’n Anrhydedd Blynyddol 2008 yng Ngwobr ‘Talking Hands’.
Pwrpas Gwobr ‘Talking Hands’ yw gwobrwyo awduron gwefannau sydd, ‘drwy eu rhagoriaeth greadigol, yn darparu gwefan sy’n dysgu, sy’n cynnwys elfennau dysgu digonol, a sydd yn rhoi rhywbeth o werth sylweddol i ymwelwyr wedi iddynt ddychwelyd i’w gweithgareddau bob dydd arferol, a fydd yn eu galluogi i fod yn ddinasyddion gwell yn y byd.’ (o wefan ‘Talking Hands’)
Mae tîm Casglu’r Tlysau yn hapus iawn i dderbyn y wobr hon, a’r gobaith yw y bydd ymwelwyr i’r wefan yn teimlo eu bod wedi dysgu am dreftadaeth a diwylliant Cymru wrth iddynt adael. Mae dros 30,000 o ddelweddau ar y safle, ac mae Casglu’r Tlysau’n cynnig mynedfa i archwilio’r tlysau sy’n guddiedig mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd y wlad.
Ers ail-lansiad gwefan Casglu’r Tlysau ym mis Awst 2008 mae wedi bod yn datblygu’n gyson. Mae’r tîm wedi bod yn gweithio i ddigido hyd yn oed mwy o gynnwys a bydd yn cyhoeddi delweddau o gasgliadau fel casgliad Undeb Rygbi Cymru, Neuadd Arwyr Chwaraeon Cymru, Casgliad Beicio Cenedlaethol yn Llandrindod a Chlwb Criced Sir Forgannwg.
Edrychwch arnynt ar www.tlysau.org.uk


Culturenet Cymru