Atgofion Machen

Helpodd grwp Archifau Cymunedol Cymru, Atgofion Machen, ei ysgol gynradd leol i ddathlu ei chanmlwyddiant yn ddiweddar.
Ar 22 Ionawr dathlodd Ysgol Gynradd Machen 100 mlynedd ers iddi agor yn swyddogol ym 1909 gyda diwrnod yn llawn o weithgareddau a rhannu atgofion. Daeth cyn-ddisgyblion ac athrawon, yn ogystal â phwysigion lleol o Gyngor Caerffili i dreulio diwrnod a ddechreuodd gyda gwasanaeth ysgol.
Wedi bore o wersi i’r plant, agorwyd yr ysgol i’r cyhoedd ac roedd cyn-ddisgyblion yn gallu ail-fyw eu dyddiau ysgol gyda thaith o amgylch yr ysgol yng nghwmni’r prifathro ac edrych ar yr arddangosfeydd a drefnwyd gan Machen Remembered. Gallai’r plant weld sut roedd bywyd ysgol wedi newid ers dyddiau eu rhieni a’u neiniau a’u teidiau drwy ddarllen hen lyfrau log sydd o hyd yn cael eu cadw yn yr ysgol.
Mae llawer o aelodau Atgofion Machen yn gyn-ddisgyblion ac yn gyn-athrawon yn Ysgol Gynradd Machen ac yn hapus i ymuno yn y dathliadau, yn enwedig gan eu bod yn medru dod â chipluniau o hanes yr ysgol. Mae archif digidol Atgofion Machen yn cynnwys delweddau o agoriad swyddogol yr ysgol ac o ddosbarthiadau dros y ganrif ddiwethaf. Mae yna hefyd ddelwedd o Mr Inkin, prifathro cyntaf Machen a fu yn yr ysgol ers iddi agor nes iddo ymddeol ym 1935.
Mae gwaith y grwp yn chwarae rhan bwysig yn dogfennu hanes cymuned Machen, fel roedd y diwrnod hwn yn dangos. Mae’r ysgol wedi bod yn ganolbwynt yng nghymuned Machen ers canol y ddeunawfed ganrif. Cafodd yr ysgol bresennol ei hadeiladu i ddisodli un arall a oedd yn dioddef o ymsuddiant gan ei bod yn agos i bwll glo’r pentref. Yn y 100 mlynedd ers iddi agor ei drysau, mae miloedd o ddisgyblion wedi cael eu haddysgu yno ac mae’r ysgol wedi ennill enw fel canolfan rhagoriaeth.
Mae archif digidol Atgofion Machen ar wefan Archifau Cymunedau Cymru yn cynnwys dros 250 o ddelweddau ac mae’n dal i dyfu.
I weld mwy o ddelweddau o’u harchif, cliciwch yma (yn anffodus, nid yw fersiwn Gymraeg tudalennau Machen yn hollol weithredol ar hyn o bryd)


Culturenet Cymru