Cyflenwad Newyddion Casglu’r Tlysau

RSS Icon

I gael y newyddion diweddaraf am Gasglu’r Tlysau tanysgrifiwch i gyflenwad newyddion RSS newydd y wefan.

Trwy glicio ar yr icon oren yn ym mlwch cyfeiriad eich porwr rhyngrwyd, bydd modd i chi gael y newyddion diweddaraf am brosiect Casglu’r Tlysau yn syth – o ychwanegiadau newydd, i newyddion y prosiect o’r swyddfa.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd cannoedd o ddelweddau newydd yn ymddangos ar y wefan. Mae ein Swyddogion Prosiect wedi bod wrthi’n ddyfal yn digido casgliadau Undeb Rygbi Cymru, Neuadd Enwogion Cymru a Chlwb Criced Morgannwg ymhlith eraill, a bydd rhain i gyd i’w gweld yn fuan.

Felly, os hoffech chi fod y cyntaf i wybod pan fydd y casgliadau cyffrous yma ar y wefan, ychwanegwch RSS Casglu’r Tlysau i far offer eich porwr gwe!

Comments are closed.