Rymbl yn y Tymbl!
Teithiodd Sioned Rees-Jones a Dafydd Tudur o Culturenet Cymru i’r Tymbl yng Nghwm Gwendraeth yn ddiweddar er mwyn cymryd rhan mewn Noson Hanes Teulu yng nghwmni Emyr Wyn Evans, actor yn yr opera sebon Gymraeg Pobl Y Cwm.
Daeth nifer dda o aelodau’r cymunedau cyfagos i’r noson ac, yn ogystal a chyfweliad gydag Emyr Wyn, cafwyd cyflwyniadau gan staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Sir Gaerfyrddin a Culturenet Cymru.
Cafodd rhai o hen luniau teuluol Emyr Wyn eu digido gan Culturenet yn y digwyddiad. Byddwn yn dychwelyd i Gwm Gwendraeth ar ddydd Sadwrn, 31 Hydref, pan fyddwn yn cynnal diwrnod digido yn Neuadd Goffa Pontyberem rhwng 10 a 4.


Culturenet Cymru