Culturenet yn dechrau hyfforddiant digido

hyfforddiant

Mae Culturenet Cymru wedi cynnal y cyntaf o bedwar peilot hyfforddiant digido sydd i’w cynnal rhwng nawr a diwedd mis Mawrth. Daeth staff amgueddfa, archifdy a llyfrgell Ynys Mon ynghyd i Langefni ar gyfer y diwrnod hyfforddiant ar 20 Hydref.

Wrth i nifer gynyddol o bartneriaid Culturenet Cymru roi cynnig ar eu rhaglenni digido eu hunain, rydym yn awyddus i weld sut allwn ni rannu ein gwybodaeth a’n profiad yn y maes hwn gyda hwy. Cyflwynir yr hyfforddiant fel modd o’u galluogi i gyfrannu’n uniongyrchol at wefan <em>Casgliad y Bobl</em> unwaith y bydd wedi’i lansio.

Dros y tri mis diwethaf, mae Culturenet wedi bod yn datblygu ‘toolkit’ i gefnogi’r hyfforddiant a bydd hwnnw ar gael i’w lawrlwytho o’r wefan hon.

Comments are closed.