Digido hanes Cwm Gwendraeth
Ar ddydd Sadwrn, 31 Hydref, gosododd Culturenet Cymru ei offer yn Neuadd Goffa Pontyberem ar gyfer diwrnod o ddigido gyda phobl Cwm Gwendraeth.
Dros yr wythnosau diwethaf, gwahoddwyd pobl Cwm Gwendraeth i ddod a’u trysorau a’u hatgofion gyda hwy i Bontyberem i greu cofnod digidol o hanes eu cymunedau.
Cawsom ddiwrnod llwyddiannus ym Mhontyberem gyda thrigolion yr ardal yn galw i rannu hanesion am y Cwm gyda ni. Cafwyd nifer o eitemau diddorol ac amrywiol yn sôn am Ferched Beca, yr ymgyrch i achub Llangyndeyrn rhag boddi, hanes pyllau glo y Cwm ac atgofion am sefydlu Menter Cwm Gwendraeth.
Mae’r gweithgaredd yn cyd-ddigwydd ag agor arddangosfa’r Llyfrgell Genedlaethol yn y neuadd. Bydd yr arddangosfa o luniau yn ymwneud a Chwm Gwendraeth yno tan Ddydd Iau, 11 Tachwedd, ac mae mynediad am ddim.


Culturenet Cymru