Gweithdai Canllawiau Digido Culturenet Cymru

Mae Culturenet Cymru yn cynnal cyfres o weithdai gyda’r bwriad o annog digido o fewn y sector dreftadaeth yng Nghymru. Mae creu cynnwys digidol yn ganolog i strategaeth nifer o sefydliadau ac i hwyluso’r gwaith, mae Culturenet Cymru wedi datblygu set o ganllawiau ar y gwahanol agweddau i ddigido.
Bydd y gweithdai yn gyfle i glywed siaradwyr gwadd yn trafod eu profiadau o ddigido ac yn rhoi cipolwg ar botensial sydd gan ddigido i gyfoethogi casgliadau, estyn allan i’r sector addysg a grwpiau cymunedol, yn ogystal â’i ddefnydd ar gyfer arddangosfeydd a marchnata.
Bydd pawb sy’n mynychu yn derbyn copi o ganllawiau digido Culturenet Cymru sy’n cynnwys modiwlau ar hawlfraint, metadata, paratoi sganwyr a sganio, paratoi delweddau ar gyfer y we, archifo digidol a chadwraeth. Maent yn ganllawiau syml gyda chamau hawdd i’w dilyn yn ogystal â ffynonellau gwybodaeth a chyngor pellach.
Bydd staff Culturenet Cymru a CyMAL yn bresennol yn y digwyddiadau i ateb cwestiynau a chynnig cyngor ar elfennau amrywiol digido – o chwilio am gyllid i sut ma’ arddangos eich casgliadau ar y we, a phopeth rhwng y ddau!
Dewch i’n gweld yn y llefydd canlynol:
2 Mawrth – Galeri, Caernarfon
3 Mawrth – Y Ganolfan Adnoddau Cyfryngol, Llandrindod Wells
4 Mawrth – Canolfan Dylan Thomas, Abertawe
Cynhelir pob digwyddiad rhwng 10 a 1.30 a bydd cinio ar gael ym mhob un. I archebu lle, ewch i wefan Cymal…


Culturenet Cymru