Kyffin Williams: Barddoniaeth di-air yw arlunio (Simonides 556 CC-468 CC)

Crib Goch and Llanberis Pass Trist oedd gweld trengi dawn aruthrol: yr arlunydd, Kyffin Williams, fu farw’n 88 mlwydd oed.  Aeth John Kyffin Williams, a aned ar 9fed Fai, 1918, i Ysgol Amwythig ac, yn ddiweddarach, fe’i prentisiwyd i gwmni gwerthwyr tir ym Mhwllheli.

Aeth yn ei flaen i wasanaethu gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ond gollyngwyd ef yn wael o’r fyddin ym 1941, yn dioddef gan epilepsi.  Ei feddyg awgrymodd y dylai ddechrau ymhel â chelf fel diddordeb ‘diberyg’, sylw didaro fu’n fodd i liwio holl fywyd Williams.

Er nad oedd yn cael ei ystyried fel un a chanddo fawr o ddawn pan ddechreuodd ei astudiaethau yn y Slade, eto i gyd, fe’i gwobrwywyd â’r ‘Slade Portrait Prize’ a’r ‘Robert Ross Leaving Scolarship’.  Ar ôl cael addysg gelf weddol draddodiadol, gyda phwyslais gref ar dynnu llun, cythruddwyd ef gan y sylw a roddid i gelf ‘cysyniadol’ y cyfnod.  Fel beirniad di-flewyn-ar-dafod rhan helaeth y byd celf cyfoes, gan gynnwys ymarfer ac ariannu fel ei gilydd, roedd yn adleisio barn llawer un wrth gondemnio digwyddiadau, megis Gwobr Turner, a, hyd yn oed, rhai o’r gweithiau celf buddugol mewn Eisteddfodau Cenedlaethol diweddar.

'Hill Farmers\'Ym 1973, dychwelodd Kyffin Williams i Ogledd Cymru ar ôl ymddeol o fod yn athro: ‘I have been lucky to have been born into such a land and … to have been given a life that has been long enough for me to put down my appreciation of it.’  Yn un o arlunwyr mwyaf enwog Cymru, a ddaliai gyda’i dechneg ansawdd ysgythrol, arwyddnodol, union hanfod y tirwedd a’r bobl yr oedd yn byw yn eu mysg, roedd ei gariad at y tir a’r bobl oedd yn trigo arni yn amlwg; roedd y ffordd eofn y defnyddiai baent, o ran ansawdd a lliw, yn adlewyrchu’r tirwedd a’r hinsawdd, ac yn llefaru’n huawdl am harddwch moel mynych man ei eni a’i farwolaeth.

Comments are closed.