Ysgrifennydd Diwylliant Chubut yn ymweld â swyddfa Culturenet Cymru

Dafydd Tudur with Jorge Fiori Ar ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2006, cafodd Culturenet Cymru ymweliad oddi wrth Jorge Fiori, Ysgrifennydd Diwylliant Chubut.  Yn nhalaith Chubut yn Ariannin y mae gwladfeydd Cymreig Patagonia wedi eu lleoli.

Rhoddodd Dr Dafydd Tudur, yr aelod diweddaraf o dîm Culturenet Cymru, gyflwyniad byr ar Glaniad (www.glaniad.com), gwefan deirieithog sy’n adrodd hanes y gwladfeydd Cymreig ym Mhatagonia.

Roedd Señor Fiori wedi gweld rhai o’r ffotograffau sy’n ymddangos ar Glaniad yn yr amgueddfa Trevelin, tref wrth odre’r Andes, lle bu’n Gyfarwyddwr Diwylliant am flynyddoedd.  Dangosodd ddiddordeb mawr mewn digideiddio ac fe gafodd gyfle i weld rhai aelodau o staff Culturenet Cymru wrth eu gwaith.

'Home of Antonio Miguens, near Trevelin\' Wrth i’r cyfarfod ddirwyn i ben, cyflwynwyd Señor Fiori gyda chopi fframiedig o un o’r ffotograffau cynharaf yn hanes y Wladfa i gofio am ei ymweliad â swyddfa Culturenet Cymru.

Mae Señor Fiori yn bwriadu dychwelyd i Gymru yng ngwanwyn 2007 er mwyn mynychu lansiad swyddogol Glaniad.

Comments are closed.