Storïau Digidol: Edrych ar ddulliau newydd o rannu profiadau
Yn Rhagfyr 2006, bu staff Culturenet Cymru ar gwrs pum diwrnod i ddysgu sut i gynhyrchu storïau digidol. Cynhaliwyd y cwrs gan unigolion sy’n gweithio ar Breaking Barriers, project sy’n rhoi cyfle i bobl bwrdeistref Caerffili i rannu eu storïau’n ddigidol.
Mae storïau digidol yn ddull o rannu barn a phrofiad personol ar ffurf ffilm fer.
Mewn storïau digidol rhoir pwyslais ar gael cipolwg ar y ffordd y mae un person yn gweld y byd, yn hytrach nag ar y sgiliau technegol sydd eu hangen i gynhyrchu’r ffilm fer. Eto, gellid defnyddio’r dulliau hyn i gyflwyno gwybodaeth ar wefan, gan roi profiad mwy cyffrous a chyfoethog i’r unigolyn.
Cynhyrchodd Culturenet Cymru ei stori ddigidol gyntaf wrth weithio ar Eu Gorffennol Eich Dyfodol, gwefan ddwyieithog sy’n coffau’r Ail Ryfel Byd trwy atgofion y rhai fu fyw trwy’r Rhyfel. Yn y stori, mae Mr Donald Parker, a symudwyd o Lerpwl i Lanfarian yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn rhannu ei atgofion o’r cyfnod hwn. Os hoffech wylio’r stori ddigidol, cliciwch yma.
Roedd y cwrs storïau digidol yn ddifyr a llawn gwybodaeth, ac mae staff Culturenet Cymru yn edrych ymlaen yn fawr at wneud defnydd o’u sgiliau newydd.


Culturenet Cymru