Cefndir Culturenet Cymru
Mae Culturenet Cymru Cyf yn gwmni preifat nid-ar-elw drwy warant, wedi ei leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Culturenet Cymru yn cydweithio gyda chyrff treftadaeth a grwpiau cymunedol trwy Gymru i ddatblygu ystod o brosiectau arloesol. Gyda phwyslais cadarn ar ddysgu gydol-oes a chynhwysiad cymdeithasol, ein hamcan yw cynhyrchu adnoddau ar-lein o ansawdd uchel sy’n archwilio ac yn hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru.
Wrth ymgeisio tuag at yr amcan hwn, mae Culturenet Cymru ynghlwm yn y gweithgareddau canlynol:
- Creu a datblygu cyfres o brosiectau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) sy’n ymestyn gwybodaeth ac yn creu diddordeb yn niwylliant a threftadaeth Cymru
- Gweithio gydag amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd trwy Gymru i ddigido miloedd o eitemau yn ymwneud â diwylliant a threftadaeth Cymru
- Gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol i adeiladau sgiliau newydd a galluogi prosiectau digido cymunedol
- Datblygu cyfres o adnoddau ar-lein a chronfeydd meddalwedd a fydd yn cael eu cadw ar wefan Culturenet Cymru ac yn gallu cael eu defnyddio gan aelodau i gynyddu gwybodaeth a medrau yn y sector
- Defnyddio prosiectau sydd eisoes yn bod i ddatblygu ystod o adnoddau addysgol









Culturenet Cymru